15 Gorffennaf 2015

Annwyl Syr/Madam

 

Ymgynghori ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Cynulliad yn:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12989

Gellir gweld cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn Atodiad 1.

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cyllid

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 8 Medi 2015. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau a hoffai gyfrannu i’r ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6343).

Yn gywir,

 

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd